Classical, jazz, sound art, film and media composers and songwriters make a valuable and vital contribution to Wales’ economy, culture, national identity, and wellbeing. Wales is often referred to as the ‘Land of Song’, and these genres rely on a thriving cultural ecosystem, public and charitable funding, public service broadcasting, and an education system that provides opportunities and supports the development of musical and compositional craft and knowledge.
The recently confirmed 10.5% Welsh government cuts to arts in Wales serve as a stark reminder of the fragility of our creative ecosystem. As advocates for the value, power and importance of music and the arts, The Ivors Academy stands in solidarity with our Welsh music creators and the broader creative community who will be affected by these cuts.
Many of our emerging and acclaimed Welsh composers, songwriters and music makers have been commissioned by Arts Council Wales, and this creative spring will run dry without alternative sources of funding.
The decision to cut funding to the arts threatens not only the livelihoods of artists and creators but also the cultural vibrancy and identity of Wales. Our national arts organisations are not afforded to make bold creative work and collaborate with our world-class music creators in Wales. We are witnessing cultural vandalism, where necessary funding for the survival and flourishing of our Welsh musical culture is being threatened.
We urge both the Senedd to reconsider these cuts and recognize the invaluable contribution of the arts to Wales’ cultural heritage, economy, and national identity. Now, more than ever, we must invest in and support the arts to ensure a thriving creative landscape for generations to come.
CYFIEITHIAD CYMRAEG / WELSH TRANSLATION
Mae cyfansoddwyr clasurol, jazz, celf sain, ffilm a’r cyfryngau yn gwneud cyfraniad gwerthfawr ac hanfodol i economi, diwylliant, hunaniaeth genedlaethol a llesiant Cymru. Cyfeirir yn aml at Gymru fel ‘Gwlad y Gân’, ac mae’r genres hyn yn dibynnu ar ecosystem ddiwylliannol ffyniannus, cyllid cyhoeddus ac elusennol, darlledu gwasanaeth cyhoeddus, a system addysg sy’n darparu cyfleoedd ac yn cefnogi datblygiad crefft a gwybodaeth gerddorol a chyfansoddiadol.
Mae’r toriadau diweddar o 10.5% gan Lywodraeth Cymru i’r celfyddydau yng Nghymru yn ein hatgoffa’n llwyr o freuder ein hecosystem greadigol. Fel eiriolwyr dros werth, pŵer a phwysigrwydd cerddoriaeth a’r celfyddydau, saif yr Academi Ivors mewn undod â’n crewyr cerddoriaeth Gymreig a’r gymuned greadigol ehangach a effeithir gan y toriadau hyn.
Comisiynwyd nifer fawr o’n cyfansoddwyr a cherddorion Cymreig gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn y gorffennol, ond bydd y ffrwd greadigol hon yn sych heb ffynonellau cyllid eraill.
Mae’r penderfyniad i dorri cyllid i’r celfyddydau yn bygwth nid yn unig bywoliaeth artistiaid a chrewyr ond hefyd bywiogrwydd diwylliannol ac hunaniaeth Cymru. Ni fydd modd bellach i’n sefydliadau celfyddydol cenedlaethol i wneud gwaith creadigol beiddgar a chydweithio â’n crewyr cerddoriaeth o safon fyd-eang yng Nghymru. Rydym yn dyst i fandaliaeth ddiwylliannol, gan fod y cyllid angenrheidiol ar gyfer goroesiad a ffyniant ein diwylliant cerddorol Cymreig dan fygythiad.
Rydym yn annog y Senedd i ailystyried y toriadau hyn a chydnabod cyfraniad amhrisiadwy’r celfyddydau i dreftadaeth ddiwylliannol, economi a hunaniaeth genedlaethol Cymru. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid inni fuddsoddi yn y celfyddydau a’u cefnogi i sicrhau tirwedd greadigol ffyniannus am genedlaethau i ddod.